Events at Newport Wetlands 2008


 

Sunday 27th April    9.30 am – 11.30 am   CCW                        

Breeding Waders – a walk to Goldcliff Lagoons to see wading birds such as lapwings, oystercatchers and redshanks at the height of the breeding season.

Leader: Keith Jones, Voluntary Warden Newport Wetlands

Meet: The Farmers Arms, Goldcliff

 

Sunday 4th May    5.15 am – 7.30 am    CCW                                 

Dawn Chorus Day – get up with the larks to listen to the dawn chorus – and find out which species each song belongs to.  Finishes with optional breakfast at the Newport Wetlands Centre (please book on 01633 636363).

Leader: Marcus John, Voluntary Warden Newport Wetlands

Meet: Reserve Car Park, Uskmouth

 

Saturday 7th  June 9 pm – midnight      Monmouthshire Moth & Butterfly Group/CCW                    

National Moth Night – Take part in Britain’s largest annual moth survey, trapping and identifying moths near the Centre after dusk.  Look out for hawk moths and tiger moths.  We will also be using bat detectors to identify bats. Please bring a torch and warm clothes.

Leader: Kevin Dupé, Reserve Manager Newport Wetlands

Meet: Newport Wetlands Centre

 

Sunday 15th June 2 pm – 4 pm    Newport City Council                        

Wetlands in Bloom  a walk to see and learn about many of the interesting and beautiful plants growing around the reedbeds. A chance to see hundreds of orchids.

Leader: Roger James, Vice President Gwent Wildlife Trust

Meet: Newport Wetlands Centre

 

Sunday 13th July 11 am-4 pm                         

Newport Wetlands Open Day – with CCW, RSPB, GWT, GOS, Newport City Council,

Goldcliff Ringing Group, Gwent Badger Group, Swan Rescue, Newport West Guides

and others. Stalls, displays, guided walks, refreshments and children’s activities.

 

Wednesday 6th August 10 am –12 noon    CCW                           

 

Damsels and dragons – a walk to see these fascinating insects that have been around since before the dinosaurs. They are voracious predators yet can’t bite or sting you!

Leader: Kevin Dupé, Reserve Manager Newport Wetlands

Meet: Newport Wetlands Centre

 

Sunday 7th December   2.30pm – 4.30pm   CCW

Reedbeds in winter – a stroll to see over-wintering wildfowl and other birds at Uskmouth.

Leader: Reserve Managers and Voluntary Wardens

Meet: Reserve car park

 

Monday 2 February 2009  3.30 pm – 5 pm   CCW     

World Wetlands Day – a walk to explore the reedbeds in winter. Listen out for the residents such as Cetti’s warblers and water rails and see over-wintering wildfowl such as tufted duck, pochard, gadwall and goldeneye.

Leaders: Reserve Managers and Voluntary Wardens

Meet: Reserve car park

 

 

Can I manage the walk?

Most walks will involve walking between 3 and 4 kilometres on surfaced tracks. Walks at Goldcliff involve un-surfaced paths and steps to viewing platforms. If you need advice on the suitability of a walk, please telephone 01633 636363. Appropriate clothing and footwear is strongly recommended for these events.

 

Dogs, except guide dogs, are not permitted to any of these events as they could disturb the birds and other wildlife that we are trying to see.

 

Your Safety

The safety of everyone attending these events is of the utmost importance to us. However, accidents can happen and people attending the events do so at their own risk.

 

Send a blank email to tellmemore@NewportWetlands.com to receive the latest news.

 

 

 


Digwyddiadau Gwlyptiroedd Casnewydd 2008

 


Dydd Sul 27 Ebrill, 9.30am – 11.30am, CCGC

Rhydwyr sy’n Nythu – Taith gerdded i Ferllynnoedd Allteuryn i weld adar fel cornchwiglod, piod môr a phibyddion coesgoch yn ystod penllanw’r tymor nythu.

Arweinydd: Keith Jones, Warden Gwirfoddol Gwlyptiroedd Casnewydd

Cyfarfod yn y Farmers Arms, Allteuryn

 

Dydd Sul 4 Mai, 5.15am – 7.30am, CCGC

Côr y Bore Bach - Dewch i godi gyda’r ehedydd i wrando ar gôr y bore bach ac i weld pwy sydd biau pob cân. Gorffen efo brecwast (dewisol) yng Nghanolfan Gwlyptiroedd Casnewydd (trefnwch le drwy ffonio 01633 636363).

Arweinydd: Marcus John, Warden Gwirfoddol Gwlyptiroedd Casnewydd

Cyfarfod ym Maes Parcio’r Warchodfa, Abrwysg

 

Dydd Sadwrn 7 Mehefin, 9pm – hanner nos

Grŵp Gwyfynod a Gloÿnnod Sir Fynwy/CCGC

Noson y Gwyfynod - Dewch i gymryd rhan yn arolwg gwyfynod blynyddol mwyaf Prydain, gan ddal ac adnabod gwyfynod ger y Ganolfan gyda’r nos. Efallai y gwelwch walchwyfynod a theigrod yr ardd.  Hefyd fe fyddwn yn defnyddio synwyryddion ystlumod i ddod o hyd i ystlumod. Dewch â thorsh a dillad cynnes efo chi.

Arweinydd: Kevin Dupé, Rheolwr Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd

Cyfarfod yng Nghanolfan Gwlyptiroedd Casnewydd

 

Dydd Sul 15 Mehefin, 2pm – 4pm, Cyngor Dinas Casnewydd

Y Gwlyptiroedd yn eu Blodau - Taith gerdded i weld a dysgu am nifer o’r planhigion hardd a diddorol sy’n tyfu o amgylch y corsleoedd. Cyfle i weld cannoedd o degeirianau.

Arweinydd: Roger Thomas, Is-lywydd Ymddiriedolaeth Natur Gwent

Cyfarfod yng Nghanolfan Gwlyptiroedd Casnewydd

 

Dydd Sul 13 Gorffennaf, 11am – 4pm

Diwrnod Agored Gwlyptiroedd Casnewydd - Efo CCGC, yr RSPB, GWT, GOS, Cyngor Dinas Casnewydd, Grŵp Modrwyo Allteuryn, Grŵp Moch Daear Gwent, Swan Rescue, Geidiau Gorllewin Casnewydd ac eraill. Stondinau, arddangosfeydd, teithiau cerdded tywysedig, lluniaeth a gweithgareddau i blant.

 

Dydd Mercher 6 Awst, 10am – 12.00pm, CCGC

Mursennod a Gwesynnod - Taith gerdded i weld y pryfed ysblennydd yma. Maen nhw wedi bod ar y ddaear ers cyn y dinosoriaid. Maen nhw’n ysglyfaethwyr o fri, ond allan nhw mo’ch brathu na’ch pigo!

Arweinydd: Kevin Dupé, Rheolwr Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd

Cyfarfod yng Nghanolfan Gwlyptiroedd Casnewydd

 

Dydd Sul 7 Rhagfyr, 2.30pm – 4.30pm, CCGC

Y Corsleoedd yn y Gaeaf – Taith gerdded hamddenol i weld yr adar dŵr a’r adar eraill sy’n treulio’r gaeaf yn Aber-wysg.

Arweinydd: Rheolwyr a Wardeiniaid Gwirfoddol y Warchodfa

Cyfarfod ym Maes Parcio’r Warchodfa

 

Dydd Llun 2 Chwefror 2009, 3.30pm – 5pm, CCGC

Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd - Taith gerdded i weld y corsleoedd yn ystod y gaeaf. Dewch i wrando ar rai o’r adar, e.e. telorion Cetti a rhegennod dŵr, ac i weld yr adar dŵr sy’n treulio’r gaeaf yma, e.e. hwyaid copog, hwyaid pengoch, hwyaid llwydion a hwyaid llygad-aur.

Arweinwyr: Rheolwyr a Wardeiniaid Gwirfoddol y Warchodfa

Cyfarfod ym Maes Parcio’r Warchodfa

 

Alla’ i ymdopi efo’r daith gerdded?

Fe fydd y rhan fwyaf o’r teithiau cerdded rywle rhwng 3 a 4 cilomedr o hyd ar lwybrau a chanddynt arwyneb. Yn Allteuryn, fe fydd yn rhaid cerdded ar lwybrau heb arwyneb, a cheir grisiau’n arwain at y gwelfannau. Os ydych angen cyngor ynghylch addasrwydd unrhyw daith gerdded, ffoniwch 01633 636363. Dylid gwisgo dillad ac esgidiau addas bob amser.

 

Ni chaniateir cŵn, ac eithrio cŵn tywys, yn y digwyddiadau hyn, oherwydd fe allant darfu ar yr adar a’r creaduriaid eraill y byddwn yn ceisio’u gweld.

Eich Diogelwch

Mae diogelwch pawb sy’n mynychu’r digwyddiadau yn bwysig eithriadol i ni. Fodd bynnag, fe all damweiniau ddigwydd, ac fe fydd y rheini a fydd yn mynychu’r digwyddiadau’n gwneud hynny ar eu menter eu hunain.

 

Anfonwch e-bost gwag at tellmemore@NewportWetlands.com er mwyn cael y newyddion diweddaraf.